Swyddog Busnes / Business Officer
New Today
OverviewDisgrifiad Swydd: Swyddog Busnes Lleoliad: Neuadd Ogwen a Fic BethesdaOriau: 37.5 awr yr wythnos (gyda rhywfaint o oriau anghymdeithasol o dro i dro)Adrodd i: Rheolwr Neuadd OgwenCytundeb Parhaol gyda cyfnod prawf 6 mis.Rydym yn chwilio am aelod brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â'n tîm cyfeillgar yn Neuadd Ogwen Cyflog: £29,000 - £32,000Pwrpas y Swydd I ddarparu cefnogaeth weinyddol, ariannol a rheoli busnes gynhwysfawr i Neuadd Ogwen a Fic Bethesda, gan sicrhau gweithrediad effeithlon, proffesiynol ac yn unol â safonau cyfreithiol, ariannol ac ymarferol.Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau1. Gweinyddiaeth GyffredinolCyflawni holl ddyletswyddau gweinyddol o fewn Neuadd Ogwen a Fic Bethesda.Ateb ymholiadau ffôn ac e-bost gan gwsmeriaid a sefydliadau, gan ddarparu cyngor ac arweiniad lle bo angen.Sicrhau bod safonau’r gwasanaeth a’r busnes yn cael eu cynnal yn gyson.2. Digwyddiadau a ChydlynuCefnogi’r trefniadau ar gyfer digwyddiadau, gan gynnwys cytundebu gydag artistiaid, busnesau a mudiadau sy’n defnyddio’r Neuadd a’i hadnoddau.Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr i sicrhau trefniadaeth effeithlon a phroffesiynol.3. Rheoli’r DyddiadurRheoli dyddiadur cwmni a holl ddigwyddiadau, gan sicrhau trefn a chysondeb yn y broses drefnu.Cydlynu gweithgarwch i osgoi gwrthdaro rhwng digwyddiadau.Cyfrifoldeb am lunio amserlen gwaith bersonol dan arweiniad y Rheolwr.4. Cefnogaeth i StaffBod yn bwynt cyswllt i holl staff ar faterion sy’n ymwneud â sifftiau, cyflogau ac hyfforddiant.Cynorthwyo’r Rheolwr gyda rheoli a llunio rotâu a phrosesau staff.Datblygu a chynnal ffeiliau Personél i'r holl staff.5. Cyllid a Thrafodion AriannolRheoli taliadau i mewn ac allan, anfonebu a chadw cofnodion ariannol cywir.Sicrhau ymarferion ariannol trylwyr a dibynadwy.Paratoi adroddiadau elw a cholled rheolaidd ar gyfer y Rheolwr, Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac arianwyr.Cefnogi’r Rheolwr i sicrhau bod y cwmni ar seiliau ariannol cadarn.6. Grantiau a Chofnodion CysylltiedigCefnogi’r Rheolwr gyda cheisiadau grant a nawdd, monitro gwariant ac adrodd yn ôl i arianwyr.Cadw cofnodion cyllidol cywir a pharhaus ar gyfer gweithgareddau grant.7. Cydymffurfiaeth a PholisïauSicrhau bod y cwmni yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol, gan ddehongli materion polisi, gweithdrefnol a statudol ac bod y cwmni yn cydymffurfio ac yn gweithredu’n briodol ar faterion yn cynnwys:Polisïau a gweithdrefnau CyflogaethRheoliadau ariannolGDPR a Diogelu DataIechyd a DiogelwchDiogeluRheoliadau TânUnrhyw ofynion statudol neu weithdrefnol eraillLlunio, diweddaru a storio polisïau mewn ffordd drefnus a hygyrch.Arwain ar fonitro cyflwr safle ac adeiladwaith a datrys unrhyw anghenion cynnal a chadw sy'n codi.8. Llywodraethu a ChyfarfodyddCydlynu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli, gan gynnwys paratoi agenda, dosbarthu papurau a chadw cofnodion o gyfarfodydd a phenderfyniadau.Sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu monitro a’u cwblhau.Sicrhau fod systemau stori a chyfathrebu gwybodaeth yn drefnus a hygyrch.9. HyfforddiantMynychu hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen i gefnogi datblygiad proffesiynol.10. Tasgau YchwanegolCyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n codi yn unol ag anghenion y busnes ar gais y Rheolwr.Sgiliau Hanfodol a DymunolSgiliau HanfodolSgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i flaenoriaethu tasgau mewn amgylchedd prysur.Profiad o waith gweinyddol neu rôl gyfatebol.Sgiliau cyfathrebu cryf (llafar ac ysgrifenedig).Hyderus wrth ddefnyddio systemau TG, gan gynnwys Microsoft Office.Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.Sylw manwl i fanylion a safon uchel o broffesiynoldeb.Gallu cadw cofnodion ariannol cywir a dealltwriaeth o brosesau ariannol sylfaenol.Parodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol o dro i dro.Sgiliau a Phrofiad DymunolProfiad o weithio mewn lleoliad digwyddiadau, celfyddydau neu’r trydydd sector.Gwybodaeth neu brofiad o anfonebu, gwariant grant a gweithdrefnau cyllidol.Profiad o gynnal neu gefnogi cyfarfodydd ffurfiol (e.e. cyfarfodydd Bwrdd).Gwybodaeth o GDPR, Iechyd a Diogelwch a rheoliadau statudol eraill.Sgiliau rheoli prosiectau neu gydlynu digwyddiadau.Y gallu i gyfathrebu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Profiad o ddefnyddio systemau rheoli digwyddiadau neu systemau llywodraethu.
#J-18808-Ljbffr
- Location:
- Bethesda
- Job Type:
- FullTime